Mudiad Meithrin yw’r prif ddarparwr a hwylusydd
gofal ac addysg cyfrwng Cymraeg yn y sector wirfoddol drwy
rwydwaith genedlaethol o Gylchoedd Meithrin, Cylchoedd Ti a Fi,
gofal cofleidiol a meithrinfeydd dydd cyfrwng Cymraeg.
Ein prif nod yw rhoi cyfle i bob plentyn ifanc yng
Nghymru fanteisio ar wasanaethau a phrofiadau blynyddoedd cynnar
trwy gyfrwng y Gymraeg. Credwn hefyd ei bod yn bwysig sicrhau
cyfle i bob plentyn elwa o brofiadau a gweithgareddau blynyddoedd
cynnar o fewn y gymuned leol.
Cymdeithas wirfoddol genedlaethol o Gylchoedd
Meithrin, Cylchoedd Ti a Fi, gofal cofleidiol a
meithrinfeydd dydd Cymraeg yw Mudiad Meithrin.
Sefydlwyd Mudiad Meithrin ym 1971. Erbyn hyn, wedi
tyfu’n aruthrol, mae tua 1000 o Gylchoedd Meithrin, Cylchoedd
Ti a Fi, grwpiau ‘Cymraeg i Blant’ a meithrinfeydd dan
faner Mudiad Meithrin. Mae’r rhain yn darparu profiadau
blynyddoedd cynnar i oddeutu 22,000 o blant bob wythnos. Yn
ogystal, mae’r Mudiad yn gweithio yn agos iawn gyda rhieni er
mwyn darparu cymorth a chyngor i’w galluogi i ddatblygu a
chefnogi gwaith y cylchoedd yn y cartref.
O ganlyniad, rydym yn gweithio gyda phlant a
theuluoedd o amryw o gefndiroedd cymdeithasol-economaidd. Rydym yn
cydweithio gyda chynllun Dechrau’n Deg i ddarparu cyfleoedd
yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, a gyda’r awdurdodau
addysg lleol i gynnig llefydd addysg rhan amser i blant 3 oed yn eu
cymuned leol.
|
Yn ogystal, rydym yn darparu hyfforddiant cyfrwng
Cymraeg i ennill cymwysterau blynyddoedd cynnar. Gwneir hyn
trwy gyd-weithio ag ysgolion uwchradd i ddarparu cyrsiau i
ddisgyblion ysgol, a thrwy’r cynllun hyfforddi cenedlaethol
ar draws 5 safle daearyddol. Darperir cyrsiau hyfforddi yn
seiliedig ar ddysgu yn y gweithle gan rwydwaith o diwtoriaid,
aseswyr a dilyswyr mewnol. Er mwyn cyflawni hyn, mae Mudiad
Meithrin yn elusen gofrestredig sy’n cyflogi dros 200 o bobl,
yn staff cenedlaethol a sirol ac mewn meithrinfeydd dydd, gyda 2000
o staff ychwanegol yn gweithio yn y cylchoedd ei
hunain.
Cefnogir y cylchoedd gan rwydwaith cenedlaethol o
staff proffesiynol sy’n eu cynghori ar amrediad o faterion er
enghraifft hybu ymarfer da, hyfforddiant staff a chyswllt ag
Awdurdodau Lleol.
|
Egwyddorion cyffredinol y Bil Cyllido Gofal Plant
(Cymru) ac a oes angen deddfwriaeth er mwyn cyflawni’r
amcanion polisi a nodwyd yn y Bil.
|
1.1. Cytunwn fod y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) yn
cyfrannu tuag at gyflawni’r ymrwymiad i ddarparu 30 awr yr
wythnos o addysg gynnar a gofal plant a ariennir gan Lywodraeth
Cymru i rieni sydd yn gweithio sydd â phlant tair a phedair
oed yng Nghymru am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.
1.2. Cytunwn hefyd gyda’r egwyddor o sefydlu un
system genedlaethol ar gyfer gweithredu’r system
taliadau. Mae hyn yn osgoi sefyllfa ble gellir gweld 22
system wahanol yn cael eu datblygu gan Awdurdodau Lleol, fyddai o
bosib yn datblygu systemau dwyieithog ar-lein a gwirwyr cymhwystra
gwahanol.
1.3. Gwelwn fanteision i ddefnyddio system gyson a
chenedlaethol ar-lein ar gyfer ymgeisio am a gwirio cymhwystra ar
gyfer cyllid gofal plant. Bydd hyn yn golygu y bydd pob
rhiant a gwarchodwr yng Nghymru yn cael mynediad i’r un
gwasanaeth, yr un gefnogaeth a bod y rheolau yn cael eu
cymhwyso’n gyson i bawb.
1.4. Er hynny, nodwn yr angen i sicrhau cefnogaeth
bwrpasol i’r sawl sydd yn methu defnyddio neu fanteisio ar
system ar-lein am amryw o resymau gwahanol. Cyfeiriwn yn
benodol at yr angen i alluogi unigolion i dderbyn cymorth i
lenwi’r ffurflen ar-lein, a chynnig opsiwn o lenwi ffurflen
papur ble mai dyma sydd ei hangen er mwyn galluogi’r unigolyn
i’w cwblhau.
1.5. Nodwn hefyd yr angen i sicrhau defnyddio iaith glir
ac osgoi jargon er mwyn sicrhau bod y rheini a’r gwarchodwyr
yn deall yr hyn sydd angen iddynt ei nodi a’r dystiolaeth mae
angen iddynt gasglu at ei gilydd.
|
Unrhyw rwystrau posibl rhag rhoi’r prif
ddarpariaethau ar waith, ac a yw’r Bil yn ystyried y
rhwystrau hynny.
|
2.1
Nodwn fod mynediad at, a darpariaeth gofal plant yn
gallu bod yn gymhleth i rieni ei ddeall. Yn gyfredol, ceir
Awdurdodau Lleol yn darparu ac yn gweinyddu cynlluniau megis
Dechrau’n Deg ac Addysg Gynnar (3 oed) mewn ffyrdd gwahanol,
sydd yn gallu bod yn ddryslyd i rieni a gofalwyr. Wrth roi
prif ddarpariaethau’r Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) ar
waith, rhaid oes sicrhau bod y systemau a fabwysiedir yn dryloyw ac
yn hawdd i rieni a gofalwyr eu deall.
2.2
Cynigwn yr angen i ddarparu canllawiau clir i rieni a
darparwyr ar gyfer hyrwyddo’r elfen cymhwystra ar gyfer
cyllid gofal plant. Rhagwelwn y bydd angen cefnogi rhieni a
gofalwyr sydd ar gontractau dim oriau i sicrhau eu bod yn cadw
tystiolaeth o’u horiau gwaith.
2.3
Nodwn bwysigrwydd parhau i werthuso a monitro’r
broses o weithredu’r cynllun yn ardaloedd y gweithredwyr
cynnar wrth ehangu’r cynllun i awdurdodau lleol
eraill.
2.4
Yn atodol, nodwn bwysigrwydd parhau i drafod
gyda’r sefydliadau ymbarél a chynrychiolwyr o’r
sector nas-gynhelir wrth ddatblygu ac ehangu’r cynllun ledled
Cymru, er mwyn sicrhau bod darpariaeth gofal plant digonol ar gael
i rieni a gwarchodwyr, yn hygyrch yn fforddiadwy ac yn lleol ym
mhob ardal o Gymru.
2.5
Dylai ystyriaeth o ddewis digonol o ddarpariaethau
gofal plant sicrhau cyflenwad digonol o ddarpariaethau cyfrwng
Cymraeg ledled Cymru.
2.6
Er nad yw’r cam lle mae darparwyr gofal plant
yn cadarnhau cymhwystra’r plentyn o fewn cwmpas yr asesiad ar
y Bil, nodwn y bydd rhaid sicrhau systemau hawlio a thalu clir ar
gyfer darparwyr sydd yn cynnig llefydd gofal plant y cynnig 30
awr. Dylai’r systemau hyn ystyried a nodi amledd y
taliadau i’r darparwyr.
2.7
Yn atodol, cyfeiriwn at yr angen am systemau clir,
hawdd i’w ddeall, ac amserol er mwyn i ddarpariaethau fedru
cadarnhau bod sawl sydd yn cael mynediad at y cynnig gofal plant yn
parhau’n gymwys. Rhaid sicrhau bod y mecanwaith ar
gyfer yr ailwiriadau ddim yn anfanteisio rhieni a gwarchodwyr, y
plant na’r darparwyr wrth ei weithredu.
|
A oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol o’r
Bil?
|
3.1
Fel prif ddarparwr gofal ac addysg cyfrwng Cymraeg yn
y sector wirfoddol yng Nghymru, cytunwn fod sicrhau darpariaeth o
ansawdd ar gyfer y blynyddoedd cynnar sy’n fforddiadwy ac yn
hygyrch ac ar gael ar adegau pan fo’i hangen ar rieni yn
hollbwysig.
3.2
Cytunwn hefyd bod cynnig help i rieni sy’n
gweithio gyda chostau gofal plant yn cyfrannu at ddileu un
o’r rhwystrau posibl rhag cael cyflogaeth, ac o ganlyniad yn
cyfrannu tuag at hybu’r economi, ac effeithiau tlodi mewn
gwaith a lleihau nifer y plant sydd yn byw mewn tlodi. Nodwn
felly'r angen i sicrhau bod y systemau ar gyfer gweinyddu a
gweithredu’r cynnig yn glir ac yn hawdd i’w ddehongli
a’u dilyn gan rieni a gwarchodwyr yn ogystal â’r
darparwyr.
3.3
Gan ystyried mai’r opsiwn a ffafriwyd gan
Lywodraeth Cymru yw bod Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) yn
darparu ac yn gweithredu’r system ymgeisio a gwirio
cymhwystra, a bod hyn yn seiliedig ar y system a ddefnyddir i
weinyddu cynllun Lloegr, pwysleisiwn yr angen i sicrhau bod y
system hon ar gael, ac yn weithredol, yn y Gymraeg a’r
Saesneg yn gydamserol.
3.4
Os defnyddir system CThEM, yr opsiwn a ffafriwyd, ar
gyfer cynnal gwiriadau’r cynllun, rhaid bydd sicrhau bod
rhieni a gofalwyr yn ymwybodol o’r trefniadau lleol i geisio
am y 10 awr o addysg gynnar y mae gan y plant yr hawl iddynt.
Nodwn hefyd, bod darpariaeth oriau addysg gynnar yn wahanol ar
draws y siroedd, a bydd angen darparu gwybodaeth glir i rieni am
faint o oriau gofal plant sydd ar gael iddynt ym mhob awdurdod
lleol.
3.5
Er nad yw’r cam gwirio cymhwystra gan y
darparwyr ar gyfer y cyllid gofal plant yn rhan o’r asesiad
ar y Bil, gwelwn fod hyn yn elfen hanfodol i sicrhau llwyddiant y
cynnig 30 awr. Eto, rhaid i’r systemau ar gyfer
gweinyddu a gweithredu’r cynnig yn glir ac yn hawdd i’w
ddehongli a’u dilyn gan y darparwyr.
3.6
Rhaid hefyd bod yn ymwybodol am yr angen i’r
system fedru gweithio yn ddwyieithog ar bob lefel. Nid
yw’r iaith a ddewisir gan riant neu warchodwr ar gyfer
cyflwyno cais yn arwyddocaol o iaith y ddarpariaeth y byddant yn
dewis ei ddefnyddio.
|
Goblygiadau ariannol y Bil (fel y nodir yn Rhan 2
o’r Memorandwm esboniadol).
|
4.1
Nodwn bwysigrwydd trafod gyda’r sefydliadau
ymbarél a chynrychiolwyr o’r sector nas-gynhelir wrth
ddatblygu’r rheoliadau ar gyfer y trefniadau ar gyfer
gweinyddu a gweithredu’r cynllun cyllido.
4.2
Cyfeiriwn at yr angen i sicrhau bod y system a
ddefnyddir ar gyfer ymgeisio a gwirio cymhwystra ar gyfer y cynnig
gofal plant yn medru derbyn ceisiadau yn y Gymraeg a darparu
allbynnau yn Gymraeg ac / neu yn ddwyieithog yn unol â dewis
y rhiant neu warchodwr sydd yn gwneud y cais.
4.3
Nodwn yr angen i sicrhau amserlen glir ar gyfer
cymhwyso cais rhieni a gofalwyr i gyllido darpariaeth gofal plant o
dan y cynllun, gyda therfyn amser cadarn yn cael ei nodi i hyd bob
cais.
4.4
Gan gymryd mai system CThEM a ffafrir, sydd yn
seiliedig ar ac a ddatblygir i ymateb i anghenion polisi Lloegr, a
fydd hyn yn arwain at ddatblygu system Gymreig, a fydd yn medru
ymateb i anghenion unigryw polisi Cymreig yn amserol yn y
dyfodol?
|
Priodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru
wneud is-ddeddfwriaeth (fel y noder yn Mhennod 5 rhan 1 o’r
memorandwm Esboniadol).
|
5.1. Cytunwn bod y pwerau yn y Bil i weinidogion Cymru
wneud is-ddeddfwriaeth (fel y noder ym Mhennod 5 rhan 1 o’r
memorandwm Esboniadol) yn briodol.
5.2. Eto, nodwn bwysigrwydd parhau i drafod gyda’r sefydliadau
ymbarél a chynrychiolwyr eraill o’r sector
nas-gynhelir wrth ddatblygu’r rheoliadau ar gyfer gweinyddu a
thaliadau’r cynllun 30 awr.
|